'Cariwch,' medd Dafydd, 'fy nhelyn i mi
Ceisiaf cyn marw roi tn arni hi
Codwch fy nwylo i gyrraedd y tant
Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant.'

'Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn
"Dafydd, tyrd adref a chwarae trwy'r glyn,"
Delyn fy mebyd, ffarwel i dy dant
Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant. 
